Catherine ElizabethHUGHESIonawr 2, 2023 Yn dawel yn ei chartref, Hen Siop, Waunfawr yn 76 mlwydd oed. Merch annwyl y diweddar Hannah a Richard (Dic); chwaer dyner y diweddar Arwyn, Meredydd, Richie, Dafydd, Douglas, Maureen a Hannah Mary, cyfnither, modryb ac un o deulu mawr Antur a ffrind i lawer. Angladd ddydd Mawrth, Ionawr 17, 2023. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys St. Garmon, Betws Garmon am 11.00 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Betws Garmon. Derbynnir blodau neu rhoddion yn ddiolchgar er cof am Cath tuag at Antur Waunfawr. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates
Add a tribute for Catherine