Dilwyn EllisHUGHESAr Ragfyr 26ain 2022 yn dawel yng nghwmni ei deulu yn ei gartref, Brentwood, Ffordd Bangor, Caernarfon, bu farw Dilwyn yn 68 mlwydd oed. Priod cariadus Manon, tad tyner a balch Ioan, brawd annwyl Iola a'i phriod John, ewythr a ffrind diffuant. Angladd hollol breifat yn unol â'i ddymuniad. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Dilwyn pe dymunir tuag at Ymchwil Canser a Nyrsys Cymunedol Arfon, trwy law'r teulu neu'r ymgymerwyr Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon, LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates