John Aneurin (Jac) A ArthurHUGHESDymuna teulu'r diweddar John Aneurin Hughes (Jac), Uwch Ffynnon, Pentrefelin ac Arthur Hughes, Colwyn Bank, Beddgelert ddiolch yn ddi-ffuant i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a caredigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn dilyn eu profedigaeth lem o golli Jac ac Arthur o fewn 6 diwrnod i'w gilydd. Derbyniwyd rhoddion hael er cof am y ddau a fydd yn mynd tuag at Ambiwlans Awyr Cymru, Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd a Chronfa Meddygon Waunfawr. Diolch arbennig i'r Parch Iwan Llewelyn Jones am weinyddu'r ddau wasanaeth mewn modd mor deimladwy. Diolch i'r organyddion Mr Glyn Roberts a Mrs Eirian Hughes am eu gwasanaeth. Diolch hefyd i holl staff wardiau CCU, Alaw, Ogwen a Hebog, Ysbyty Gwynedd am y gofal di-flino a roddwyd i'r ddau tra yn yr Ysbyty. Hoffem ddiolch yn ddi-ffuant i Malcolm a holl staff Pritchard & Griffiths cyf, Ymgymerwyr, Tremadog am y trefniadau trylwyr a gofalus.
Keep me informed of updates