AnnHUGHESHUGHES - ANN GLENYS. Dymuna Bernant, Glyn ac Anwen a'i theulu ddiolch yn gywir iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn y brofedigaeth a ddaeth i'w rhan yn ddiweddar. Cydnabyddir yn ddiffuant waith arbennig y meddygon a'r nyrsus yn Ysbytai Glan Clwyd a Rhuthun; ei meddyg teulu, Dr. Sian Woodward a'i gofalwraig, Lena Edwards yn ystod cystudd hir Glenys. Diolchwn yn arbennig am wasanaeth bendithol ac urddasol ein gweinidog, Y Parchg. Graham Ffloyd yn yr Amlosgfa ac yng Nghapel Pendref, ac am y gweinidogion a'i gynorthwyodd yno. Gwerthfawrogwn yn fawr gyfraniad yr organyddes, Gwenda Jones. Fe'n cysurwyd i weld gymaint o gymdogiod, aelodau Pendref, perthnasau a chyfeillion a ddaeth o bell ac agos i dalu'r gymwynas olaf i Glenys. Diolch am y cyfraniadau hael er cof amdani tuag at waith yr NACC, ac i'r Brodyr Dowell am eu trefniadau trylwyr a'u gwasanaeth cyfeillgar. Ac i Dduw y bo'r ddiolch am gymorth parod i ni yn ein galar a'n hiraeth.
Keep me informed of updates