CatherineHUGHESHUGHES - CATHERINE, 7fed o Ebrill 2008. O Bryn Awelon, Mount Pleasant, Dolgellau, yn 84 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Elfed, mam hoff Gwyndaf a'i briod Eirlys, nain gariadus Sion, Dafydd a Heledd. Gwasanaeth yng Nghapel Ebeneser, Dolgellau, dydd Llun, 14eg o Ebrill am 1 o'r gloch ac i ddilyn yn Amlosgfa Aberystwyth. Dim blodau. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ymchwil y Cancr, trwy law Mr. Wyn Meredith, Arwel, Dolgellau. Ymholiadau i Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Dolgellau. Ffon: 01341 422322 neu Dinas Mawddwy, ffon: 01650 531240.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Catherine