David GwynforGRIFFITHSMawrth 24ain 2026
Yn dawel yn ei gartref Golygfa'r Dyffryn, Trefriw yng ngofal tyner ei deulu a thim caredig y gofalwyr yn 90mlwydd oed.
Gwr annwyl y diweddar Marina, tad tyner a chariadus Janette a Phil, Wendy a Nerys.Taid hwyliog a charedig Christopher a Amy, Michael a Lucy a hen daid balch Ollie a Florence. Brawd hoffus i'r diweddar Elwyn, James, Margaret, Meurig, Gwenno, Robert, Ethel a Elizabeth, bydd chwithdod o'i golli gan y teulu oll a llu o ffrindiau.
Angladd cyhoeddus dydd Sadwrn Ebrill 11ed. Gwasanaeth yn Eglwys Unedig Penmachno am 12 or gloch ac I ddilyn i'r teulu yn unig yn Mynwent Gyhoeddus Trefriw.
Derbynir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Cymdeithas Alzheimers a phapur bro yr Odyn trwy law Geoff Roberts, 16 Highgate Dinbych, ffon 01745 815226.
Keep me informed of updates