Y Parch EdwardGRIFFITHSYn dawel yn ei gartref ar noson y Nadolig yn 88 oed, hunodd Edward, Bryn Caredig, Ffairfach, Llandeilo.
Cymro. Cyfaill. Cristion.
Priod ffyddlon Rhiannon, tad annwyl Owain a Rhodri, tad-cu cariadus Deio, Begw, Efa ac Elis, a thad-yng-nghyfraith hoffus Cerys a Rebecca.
Angladd breifat yn Amlosgfa Llanelli ar ddydd Sadwrn, 10 Ionawr 2026, gyda gwasanaeth cyhoeddus i ddilyn, i ddathlu ei fywyd, yn y Capel Newydd, Llandeilo am 11.30am.
Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion er cof, os dymunir, i'w rhannu rhwng Capel Newydd a Chymorth Cristnogol. Sieciau'n daladwy i "Capel Newydd" drwy law'r trefnwyr angladdau: Cimla Funeral Home, 112 Heol Cimla, Castell Nedd, SA11 3UD.
Keep me informed of updates