NoraGINNYn dawel ddydd Sadwrn, 8fed o Dachwedd yn Ysbyty Treforys yn 82 mlwydd oed, hunodd Nora o Delffordd, Rhos, Pontardawe. Gwraig annwyl a ffyddlon y diweddar Handel, mam gariadus a chefnogol Andrew a Monica, mamgu arbennig Elis, chwaer dyner Mary a'r ddiweddar Ray a chwaer yng nghyfraith hoffus Keith a Jackie. Angladd ddydd Llun, 1af o Ragfyr, gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Abertawe am 12.30 y prynhawn. Blodau'r teulu'n unig. Ymholiadau pellach i Evan Rees a Hywel Griffiths, Trefnwyr Angladdau, Gwaun Cae Gurwen, Rhydaman. Ffôn 01269 822206
Keep me informed of updates