Dafydd Evan EvansEVANSBu farw yn dawel yng nghwmni eu deulu ym Maesgwyn, Y Bala yn 91 mlwydd oed.
Gŵr addfwyn a ffrind oes i Gwyneth, Tad balch a gofalus i Eleri a Gwawr, tad yng nghyfraith caredig i Clwyd ac Osian, a thaid hwyliog i Leah, Alis, Caio, Lois a Beca. Brawd i Robin a'r diweddar Elen a Gwenan a ffrind i lawer. Bydd colled ac hiraeth ar ei ôl.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Tegid Y Bala, Dydd Sadwrn Awst yr 2il am 11.00 y bore. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Llanycil lle bydd gwasanaeth preifat i'r teulu yn unig.
Blodau gan y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion os y dymunir tuag at Gronfa Offer Meddygol Canolfan Iechyd Y Bala a Sefydliad Ymchwil y Galon - Cangen Y Bala drwy law
Arthur Evans a'i Feibion. Rhif ffôn: 01678 520660
Keep me informed of updates