StanEVANSEVANS - Dymuna Stan, Robin, Tristian a theulu'r diweddar ELISABETH MARY EVANS, Gwel y Mor, 119 Ffordd Rhedyw, Llanllyfni estyn eu diolch cywiraf i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynnwyd iddynt mewn gair a gweithred, yn dilyn colli priod, mam, nain ac athrawes mor annwyl. Diolch am y rhoddion hael o dros £800 a dderbyniwyd er cof amdani tuag at Ysgol Felinwnda. Diolch i'r Parchedig Tegid Roberts am ei gefnogaeth, ac am ei eiriau caredig a chysurlon, ac i'r cyfarwyddwyr angladdau, Roberts & Owen, Pen-y-groes am eu gwasanaeth arbennig, a'u cymorth a'u trefniant bendigedig.
Keep me informed of updates