DaviesEIRA('Mama' 05.02.1916 - 21.03.2008 Hunodd Eira'n dawel yn 92 mlwydd oed yn Ysbyty Llwynypia wedi cyfnodau hir o waeledd, ac y mae hi nawr yn un efo'i diweddar annwyl wr David a'i mab Brian. Bydd ei holl deulu, cyfeillion a phawb oedd yn ei hadnabod yn gweld ei cholled yn fawr. Dymunwn ni fel teulu ddiolch i bawb a oedd yn bresennol yn yr angladd, ac am bob caredigrwydd a ddangoswyd trwy gyfrwng y nifer fawr o gardiau a'r llythyrau o gydymdeimlad. Yr ydym yn arbennig o ddiolchgar am yr holl gyfraniadau a dderbyniwyd ar ran Ymchwil Cancr Cymru. Diolchwn o galon i Chris Jones ac i Hannah Jones am eu hystyriaeth yn ystod cyfnod anodd, ac am adfer hunanbarch ac urddas Eira.
Keep me informed of updates