Catherine MaryDAVIESYn dawel yn ei chwsg fore Mercher 26ain Tachwedd 2025 hunodd Catherine Mary (Katie), Dolanog, Rhydlewis yn 95 mlwydd oed.
Priod annwyl a gofalus y diweddar David Edward, mam dyner a didwyll Anne, mam-yng-nghyfraith barchus Stan, mamgu arbennig Rhys a'i briod Lowri.
Gwasanaeth Angladdol a Chladdedigaeth Preifat yng Nghapel Bwlch-y-groes , Llandysul, ddydd Sadwrn, 6ed Rhagfyr am 11.00 o'r gloch. Plethdorch y teulu'n unig, ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymuner tuag at Feddygfa Llynyfran trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-Pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH
Keep me informed of updates
Add a tribute for Catherine