David WilliamDAVIES("Daff") Yn dawel yn ysbyty Bronglais bore dydd Llun 27ain Chwefror, yn 91 oed, hunodd Daff, 114 Maesglas, Aberteifi. Priod ffyddlon y diweddar Eirian, tad cariadus Dyfrig, Gethin a Carys, tad-yng-nghyfraith parchus Sandra a Daniel, tadcu tyner Mathew a Rhian, Hanna, Elin a Lee, Bethan, a Rhodri, hen ddatcu balch Lilly a Teifi, a ffrind i bawb. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Blaencefn, Y Ferwig dydd Sadwrn 11eg Mawrth, am 12 o'r gloch. Rhoddion, os dymunir tuag at "PPH BCU fund" (Prince Phillip hospital Breast care unit fund) a "Cardigan Cancer Care" trwy law y trefnwr angladdau Mr Peter Evans, 54 Pendre, Aberteifi, SA431JR. Rhif ffôn: 01239615266
Keep me informed of updates