Skip to Add Tribute Skip to Content
Create a notice
What type of customer are you?
Why create a notice?
Announce the passing
Publish funeral arrangements
Remember a loved one gone before
Raise charitable donations
Share a loved one’s notice
Add unlimited tributes to this everlasting notice
Buy Keepsake
Print
Save

In Memoriam for William John (Llys Aeron, Llanwnnen gynt o Llysfaen Uchaf, Llanwnnen a Berllandeg, Felinfach) DAVIES (Gwilym)

Pencader | Published in: Carmarthen Journal.

(1) Photos & Videos View all
Change notice background image
William JohnDAVIESGwilym Llys Aeron, Llanwnnen gynt o Llysfaen Uchaf, Llanwnnen a Berllandeg, Felinfach I gofio'n annwyl am 'Gwilym Llysfaen', Priod annwyl Gwen am dros 55 o flynyddoedd hapus, Tad cariadus Gwyneth, Tad-yng-nghyfraith a ffrind i Andrew, Tadcu hoffus i Carwyn a'i bartner Nerys, Ceiros a Gwenann Hunodd yn dawel yng nghwmni ei deulu ar ddydd Gwener y Groglith, 10fed o Ebrill 2020 yn 84 mlwydd oed. Cafwyd gwasanaeth angladdol preifat oherwydd cyfyngiadau Covid o dan ofal medrus Yr Hybarch Canon Eileen Davies. Dymunwn fel teulu ddiolch o waelod calon am eu gwasanaeth a'i gofal yn ystod ein profedigaeth. Manteisiwn hefyd ar y cyfle i ddiolch i'n teulu estynedig, chymdogion a ffrindiau ôll am pob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd i ni fel teulu. Diolch arbennig i gwmni Gwilym Price a'i fab a'u ferched am ymgymryd â'r gwaith gydag urddas a pharch. Dymuniad Gwilym oedd cael dychwelyd yn ôl i ardal ei blentyndod, a rhoddwyd i orffwys yn dawel ym Mynwent Eglwys Llanfihangel Ystrad, Ystrad Aeron ar ddydd Sadwrn 18fed o Ebrill 2020. Dyn ei filltir sgwar oedd Gwilym. Gweithiodd yn galed ar y fferm gyda Gwen a Gwyneth pan oedd hi yn ifanc. Roedd wrth ei fodd yn mynd i ambell i sêl a phrynu a gwerthu peiriannau fferm a mynd am wyliau yn y garafan. Roedd Gwilym yn meddwl y byd o'i unig blentyn Gwyneth ac yn browd iawn ohoni hi a'i gwr Andrew. Roedd yr wyrion yn cael amser da pan byddant lawr yn Llysfaen neu yn Llys Aeron ac mae ganddynt i gyd atgofion melys o fod yng nghwmni 'Tadcu Llysfaen' yn helpu ar y fferm a chwarae gemau yn enwedig 'Dominos'. Roedd Gwilym yn joio bach o sbort a ganddo chwerthiniad iachus a'r llygaid fwyaf glas a bywiog a welsoch erioed. Gwelir ei heisiau yn fawr. 'Yn dawel hiraethwn Gyda Chariad y Cofiwn'
Keep me informed of updates
Add a tribute for William
841 visitors
|
Published: 07/04/2021
1 Potentially related notice
Want to celebrate a loved one's life?
Create your own ever lasting tribute today
5 Tributes added for William
Report a tribute
Add your own tribute
Add Tribute
Candle fn_8
Gwyneth
07/04/2023
Gweld dy eisiau bob dydd
Gwen x
Gwyneth
07/04/2022
Comment
Candle fn_14
Gwyneth
07/04/2022
Candle fn_3
Gwyneth xxx
07/04/2021
Tribute photo for William John DAVIES
funeral-notices.co.uk
07/04/2021
Comment