ElizabethDAVIESYn dawel yn Ysbyty Glangwili ar 17eg o Fai, hunodd Elizabeth, Heol Cennen, Ffairfach yn 70 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Howard, mam gariadus Aled, mamgu hoffus Flynn, chwaer annwyl Eric. Angladd ddydd Iau, 30ain o Fai 2019. Gwasanaeth Cyhoeddus yng nghapel Siloam, Pontargothi am 12 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Pancreatic Cancer UK trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 241626
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth