MoiraDAVIESBu farw Moira, o 31 Stryd Harold, Tirydail, Rhydaman yn dawel yng nghwmni ei theulu annwyl iawn yn Ysbyty Tywysog Philip Llanelli ar Ddydd Sadwrn, 20 o Dachwedd 2010, priod hoff David Tom, mam annwyl i'w phlant Eryl, Hywel, Monica a Dyfnallt, ac i'w meibion yng nghyfraith Raymond a Gerwyn, mamgu gariadus Trystan, Harriet, Steffan, Daniel ac Alfie, a chwaer hoffus Verona ac Arwyn. Yn golled fawr i'r teulu oll, gan wybod mai gwag yw'r gadair ar ei haelwyd parchus iawn. Angladd Ddydd Gwener, Tachwedd 26, gwasanaeth cyhoeddus yng nghapel Bethani Rhydaman am 2.00 y prynhawn, ac oddi yno i Mynwent Eglwys Llandybie lle y cleddir ei gweddillion. Blodau'r teulu'n unig, cyfraniadau os dymunir i Sefydliad Prydeinig y Galon (British Heart Foundation) drwy law Hywel Griffiths a'i Feibion, Trefnwyr Angladdau, Bwtrimawr, 39 Heol y Betws, Betws, Rhydaman, SA18 2HE.
Keep me informed of updates