Gareth LlwydDAFYDD18 Ionawr, 2024. Yn frawychus o sydyn ac o Llech Idris, Ffordd Fictoria, Caernarfon, yn 67 mlwydd oed. Priod amhrisiadwy Ruth, a thad arbennig Morus, Gruff, Sara ac Elin. Yn un o wyth o deulu Pant y Neuadd, Parc, yn fab i'r diweddar Sylwen a Bryn Davies, a brawd cariadus Carys, Iwan, Arwel, Sioned, Gethin, Teleri a Rhian, a mab-yng-nghyfraith Mair. 'Yr anwylaf o'r anwyliaid'. Angladd ddydd Sadwrn, 3 Chwefror, 2024. Gwasanaeth preifat i'r teulu'n unig ar lan y bedd ym Mynwent Capel Penystryd, Bronaber, gyda gwasanaeth o ddiolchgarwch i ddilyn yn gyhoeddus yng Nghapel Salem, Caernarfon am 2.00 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchar er cof am Gareth tuag at Mind Cymru. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates