RonaldCULLENCULLEN Dymuna Ronald a Michael a theulu y diweddar Donald Cullen ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad amlygwyd tuag atynt yn eu profedigaeth ddiweddar. Diolch am y llu gardiau, y galwadau ffon ac ymweliadau a fu o gysur mawr iddynt ar adeg trist. Diolch i'r Canon Idris Thomas am ei wasanaeth, yr organyddes Mrs. Wendy Lloyd Jones am ei rhan, a Mr Ifan Hughes yr ymgymerwr am ei drefniadau gofalus a thrylwyr. Cydnabyddir yn ddiolchgar iawn y rhoddion hael tuag at Ward Alaw Ysbyty Gwynedd ac Uned Cancr Ysbyty Glan Clwyd, er cof am Donald.
Keep me informed of updates