AnwenBOWYERBOWYER - Dymuna Hawys, Osian a theulu'r diweddar ANWEN BOWYER, Glan Conwy, ddiolch o galon i bawb am eu cefnogaeth yn ystod ei gwaeledd, ac am bob arwydd o gydymdeimlad a amlygwyd tuag atynt fel teulu wedi'r tristwch llethol o'i cholli. Diolchwn yn arbennig i staff Hosbis Dewi Sant, Llandudno am eu gofal tyner ac amhrisiadwy drosti yn ystod y misoedd diwethaf. Estynnwn ein diolch cywir i'r Parchedig Brian Wright am ei wasanaeth a'i weddiau, a hefyd i'r Parchedig John Lewis Jones. Diolch i Mr Trystan Lewis a Mr Ray Scythe Jones, yr organyddion, ac i bawb a fynychodd y gwasanaeth ym Mryn Ebeneser. Diolchwn i Dilwyn Tudor Davies, yr ymgymerwr, am ei drefniadau gofalus a thrylwyr. Cydnabyddir yn ddiolchgar iawn y rhoddion hael (cyfanswm o £1,800.00) a dderbyniwyd tuag at Hosbis Dewi Sant er cof am ein mam.
Keep me informed of updates