EdwinaAYLETTYn dawel ar Orffennaf y 18fed yng Nghartref Gofal Stretton, Henffordd, hunodd Edwina (gynt o Ffynnonlas, Crugybar) yn 78 mlwydd oed. Priod annwyl Roy Aylett, chwaer Esme a chwaer yng nghyfraith Dan.
Gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Henffordd ar y 19eg o Awst. Cynhelir Gwasanaeth Coffa i deulu a ffrindiau yng Nghapel Crugybar dydd Mawrth 25ain o Awst am 2 o'r gloch.
Derbynnir rhoddion os dymunir tuag at 'Alzheimer's Research UK' trwy law yr ymgymerwr.
Ymholiadau pellach i D. Lloyd a'i Feibion, Glanrwyth, Pumsaint, SA19 8YU. 01558650209.
Keep me informed of updates