ANNIE EUNICE OWENOWEN - Dymuna Griff, Lavinia a theulu y ddiweddar Annie Eunice Owen, Bennar Bungalow, Abersoch ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli mam, mam yng nghyfraith, nain a modryb annwyl iawn. Diolch i'r Parchedig R. E. Hughes ac Anwen am gymeryd rhan yn y gwasanaeth, hefyd diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd tuag at Gronfa Cyfeillion Ysbyty Bryn Beryl, hefyd i G. D. Roberts a'i Fab am eu trefniadau gofalus a thrylwyr.
Keep me informed of updates