Fel gŵr Gwen, oedd yn gogyddes yn Ysgol Talsarnau, a thad Dylan a'r ddiweddar Amanda y deuthum i, i adnabod Eifion gyntaf. Roedd o yn gyson yn gefnogol i'r ysgol ac am gael y gorau ar gyfer y plant ym mhob ffordd. Gwyddom fod Côr y Brythoniaid wedi bod yn bwysig iawn iddo a chai dim ei rwystro rhag iddo fynychu'r ymarferiadau wythnosol. Roedd y côr yn cael blaenoriaeth ac roedd ei deyrngarwch yn ddi-feth. Rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth diflino i'r Neuadd Gymuned a bu'n Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli am nifer helaeth o flynyddoedd. Cyfrannodd yn hael yn ei ffordd ei hun ac ni fyddai ball arno pan fyddai am gael ambell faen i'r wal.
Rydan ni fel ardal yn cydymdeimlo'n ddwys â Dylan a gweddill y teulu i gyd a byddem am iddynt wybod ein bod ni yn meddwl amdanynt ac yn anfon ein cofion yn annwyl atynt.
Celt Roberts
08/08/2026