Y Parchedig Emyr LynEVANSYn dawel ar fore Llun, 9fed Chwefror 2026 yn 84 mlwydd oed hunodd Emyr Lyn, Heol Bronwydd, Caerfyrddin.
Cyn-Weinidog Ebeneser (Abergwili), Pant-teg (Felinwen), Siloam (Pontargothi) a Horeb (Felingwm).
Gŵr ffyddlon Sue, tad arbennig Iestyn, 'Dats' balch Jac Llywelyn ac Elen Fflur, ffrind i Lesley a Gwyn.
Gwelir ei eisiau yn fawr gan deulu a nifer o ffrindiau.
Angladd hollol breifat yn ôl ei ddymuniad.
Blodau'r teulu yn unig.
Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at "Banc Bwyd Caerfyrddin" trwy law Iwan Evans o Glanmor Evans a'i Fab Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PG 01267 237100
Keep me informed of updates