NancyWILLIAMS26ain o Fedi 2025 Yn dawel a heddychlon yng nghwmni ei theulu yn 99 mlwydd oed o Graig, Bethel, Bodorgan. Mam amhrisiadwy Lyn (Eluned), Maldwyn a Helen a'r diweddar Margaret a Richard, Mam yng nghyfraith Diana, Meic a'r diweddar Trefor, Nain balch a'r orau i Sarah, Llinos, Huw, Dafydd a Sioned, hen Nain falch a chariadus Owain, Rhys, Morgan, Erin, Modlen, Rees a Nansi a Modryb annwyl i Peter, Stephen a'r diweddar Trina a'u teuluoedd. Colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll.
Angladd dydd Gwener, 10fed Hydref 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Beuno, Aberffraw am 1:30 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent yr Eglwys.
Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Clwb Strôc Caergybi a Ty Gobaith
trwy law Griffith Roberts a'i Fab,
Preswylfa, Y Fali
Ffon (01407) 740 940
Keep me informed of updates