William EllisTORR19eg o Fai 2022. Hunodd yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor o Argoed, Cemaes, Ynys Môn, yn 83 mlwydd oed. Gŵr ffyddlon Nell; tad a thad yng nghyfraith cariadus Susan a Stuart, Elaine a Med ac Andrew a Sharon; taid balch Rhys, Sion, Llinos, Bethan, Iwan, Huw a Gareth; hen daid amhrisiadwy Ellis, Elsie, Malie a Ioan; brawd a brawd yng nghyfraith hoff a ffrind triw i lawer. Bydd yn golled fawr i'w deulu a'i ffrindiau oll. Angladd cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, ddydd Sadwrn, 28ain o Fai, 2022 am 10:30yb. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at RNLI (Caergybi) a Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Ymholiadau pellach i'r Ymgymerwr Arwyn Hughes, Bryn Hyfryd, Dulas, Ynys Môn, LL70 9PJ a'r Hen Fecws, Marian-Glas, Ynys Môn. Ffôn: 01248 410353.
Keep me informed of updates
Add a tribute for William