Marian GlesniTHOMASYn dawel ddydd Gwener 28 Awst 2020 yn Ysbyty Prifysgol Llandochau, hunodd Glesni, o Halsbury Road, Caerdydd yn 70 mlwydd oed. Merch ieuaf y diweddar David John a Dilys Thomas, Bryndulais, Llanllwni, caiff ei chofio'n annwyl iawn gan ei brawd a'i chwaer Howard a Delyth, ei chwaer-yng-nghyfraith Gloria, a'i brawd-yng-nghyfraith Graham, ei nithoedd a'i gwŷr Heledd ac Iwan a Meinir ac Emyr, ei nai Geraint, ei gor-nith Efa a'i gor-neiaint Sam, Steffan, Tomos a Caio. Angladd preifat ddydd Gwener 11 Medi 2020 yng Nghapel Nonni, Llanllwni. Blodau'r teulu yn unig, rhoddion os dymunir tuag at Breast Cancer NOW, trwy law Mr Dorian Harries ar ran G Harries a'i Feibion, Cyfarwyddwyr Angladdau, Maesybwlch, Pencader, SA39 9BY, Ffôn: 01559 384386
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Marian