RhodaJONES(Caernarfon) 2 Mai 2023, yn dawel a gwrol yng nghwmni ei theulu yng nghartref preswyl Glan Rhos, Brynsiencyn, yn 95 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Barchedig Trefor Jones am bron i 71 mlynedd. Mam ofalus ac arbennig i Geraint a'i wraig Sioned. Nain hoffus a charedig i Lisa a'i gŵr Geraint ac Euros a'i wraig Tamany. Hen nain falch i Huw, Ifan, Gwenllian, Gwawr ac Eban. Chwaer annwyl y ddiweddar Eira Bibby. Gwraig hynaws a doeth ei chyngor a bydd colled enfawr ar ei hôl i'w theulu a llu mawr o gyfeillion. Gwasanaeth cyhoeddus o ddiolchgarwch i ddathlu ei bywyd yng Nghapel Seilo, Caernarfon, dydd Gwener, 12 Mai am 11 o'r gloch. Blodau gan y teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Gapel Seilo, Caernarfon drwy law yr ymgymerwyr R & J Hughes, Capel Penuel, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7EF. Ffôn 01248 723497
Keep me informed of updates