MairJONESJONES - MAIR, . Medi 10fed, 2019. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref Erw Gain, 15, Stad Eryri, Bethel yn 82 mlwydd oed. Annwyl wraig John, mam gariadus Delyth, Glyn a Bethan, nain hoffus a hwyliog Owain, Elin, Huw a Ben, hen nain arbennig i Harvey. Colled enfawr a thrist i Len, Cathrine, Aled a'r teulu i gyd. Gwasanaeth yn Amlosgfa Bangor Dydd Mawrth, Medi 24ain am 11.00 o'r gloch. Blodau i'r teulu agos yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Meddygfa Llanberis. Ymholiadau pellach i Gwilym Jones a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Ffordd y De, Caernarfon. Ffon (01286) 673072.
Keep me informed of updates