Thomas BrinleyJONESYn dawel yn Ysbyty Glangwili, Dydd Mercher, Gorffennaf 31, 2019 yn 76 mlwydd oed hunodd Brinley, Glen Lynne, Llanfihangel-ar-Arth, priod annwyl Lydia, tad tyner Marc a Wendy, tadcu cariadus Seren a Bryn, tad yng nghyfraith ffyddlon Michael a brawd hoffus Elgan a Eleri, a'r diweddar Maggie, Mair a Rheinallt, brawd yn nghyfraith Tom, Elin a'r diweddar Dewi ac ewythr hoffus. Angladd Cyhoeddus yng Nghapel Tabernacle Pencader Dydd Sadwrn, Awst 17, 2019 am 2:00yp ac i ddilyn i Fynwent y Plwyf Pencader. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ward Padarn, Ysbyty Glangwili trwy law Gethin neu Dorian Harries, Cyfarwyddwyr Angladdau, Maesybwlch, Pencader SA39 9BY. Ffôn 01559 384386.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Thomas