Sion RhysJONESDymuna Teulu y diweddar Sion Rhys ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth diweddar o golli brawd ac ewythr annwyl. Gwerthfawrogwyd yr ymweliadau, galwadau ffôn, cardiau a'r rhoddion tuag at Meddygfa Waunfawr. Diolch yn arbennig i staff Cartref Nyrsio Fairways Newydd, Sant Tysilio am eu gofal o Sion. Mawr ein diolch i'r Parchedig Marcus Robinson am ei wasanaeth teimladwy, ac i Meinir o Dylan Griffith Ymgymerwyr, Penisarwaen am ei threfniadau trylwyr a gofalus.
Keep me informed of updates