Ruth MargaretJONESJONES - RUTH MARGARET (nee Morris) - 2 Bro Cynan, Pwllheli. Medi 9fed 2014 o dan ofal tyner Ward Hebog, Ysbyty Gwynedd, yng nghwmni Sylvia a Nyrs Catrin ar ?l blynyddoedd o salwch creulon aeth Ruth i gysgu yn dawel. Merch, chwaer, mam, nana, cyfneither a ffrind agos i lawer. Angladd cyhoeddus yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli brynhawn Mercher, Medi 17eg 2014 am 1.30 o'r gloch ac yna i ddilyn ym mynwent Deneio, Pwllheli. Yn ?l ei dymuniad dim dillad angladdol a pawb i wisgo'n lliwgar. Derbynnir blodau yn ddiolchgar ond ni fydd casgliad tuag at elusen. Ymholiadau pellach i Ifan Hughes, Trefnwr Angladdau, Ceiri Garage, Llanaelhaearn. Ff?n 01758 750238.
Keep me informed of updates