Lilith DawnJAMESYn dawel gyda'i theulu Yn Ysbyty Glangwili ar Dydd Iau 14eg o Ionawr 2021 yn 77 mlwydd oed hunodd Dawn James, o Ty Newydd, Heol Trefechan, Caerfyrddin. Gwraig gariadus Eirwyn, mam Catrin, Guto a Siôn, mam-yng-nghyfraith Llewelyn, Helen a Menna. Mam-gu tyner Angharad, Gwawr, Lewys, Lydia, Dylan, Steffan a Sara. Hen-famgu addfwyn Betsan, Trystan, Ceio, Lwsi a Dion. Chwaer i Carole a Chwaer yng-ngyffraith i George a Menna. Gwasanaeth yn unol â'r amgylchiadau presennol, angladd hollol breifat ym Mynwent Tref Caerfyrddin ar Ddydd Mercher 27ain o Ionawr 2021 am 11:00yb Blodau teuluol yn unig ond rhoddion er cof os dymunir i nyrsys ward CCU Glangwili a Gofalwyr Cymunedol drwy law Dorian Harries, ar ran G Harries a'i Feibion, Cyfarwyddwyr angladdau, Maesybwlch, Pencader, SA39 9BY. Ffôn: (01559)384386
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Lilith