Ceri AnnJAMESEdwards Yn sydyn, yn ei chartref, ar 24 Ionawr 2020, bu farw Ceri, merch hoff y diweddar John a Ceri Edwards. Gwraig annwyl Alan, mam gariadus Sheridan a Brioni, a Mam-gu falch Ariella, Elias, Talitha a Caleb. Bydd ei hoff fab yng nghyfraith Robert yn gweld ei cholli. Chwaer yng nghyfraith annwyl David a Theresa. Modryb Shaun a Joanne. Gwasanaeth Angladd i'w gynnal ddydd Llun 17 Chwefror, 1.15pm, Amlosgfa Caerdydd (Capel y Wenallt), Heol Thornhill, Rhiwbeina, Caerdydd CF14 9UA. Bydd Gwasanaeth o Ddathlu, 2.30pm yn eglwys y Bedyddwyr Rhiwbeina. Dim blodau os gwelwch yn dda; unrhyw gyfraniadau ariannol i fynd at 'Enfys Gobaith' (elusen yng Nghaerdydd sy'n cynorthwyo pobl ddigartref a rhai sydd o dan anfantais gan gynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid) y bu Ceri'n gweithio'n ddiflino drostynt. Pob ymholiad at John Edwards Ymgymerwyr Angladdau. 5 Cwmbath Road, Treforys, Abertawe, SA6 7AH. Tel: 01792 771232. Os hoffech gyfrannu at yr achos, ewch i http://bit.ly/CeriJames
Keep me informed of updates