RobertHUMPHREYSHUMPHREYS - ROBERT GARETH a hunodd yn dawel yn frawychus o sydyn Ebrill 12fed, 2008 yn ei gartref, Machros, Sgwar Oakeley, Blaenau Ffestiniog yn 61 oed. Priod addfwyn a dibynadwy Ceinwen, tad cymwynasgar a gofalus, Rhodd a Pryderi, Sian a Graham, taid siriol a balch Awel, mab annwyl Jane Alltwen a'r diweddar Robert John Humphreys, Ganllwyd, a brawd hoff Geraint, John, Alan a'u teuluoedd. Cynhelir angladd cyhoeddus yn Eglwys Bowydd, Blaenau Ffestiniog, dydd Sadwrn, Ebrill 19eg am 10 o'r gloch y bore ac i ddilyn ym Mynwent Llan Ffestiniog. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof at Ymchwil y Galon drwy law yr Ymgymerwr Gareth Williams (John Williams a'i Fab), 27 Stryd Jones, Blaenau Ffestiniog. Ffon: 01766 830 441.
Keep me informed of updates