Tabitha WheldonHUGHESTreflys, Ffordd Llwyndu, Penygroes Hunodd yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd ddydd Mawrth 28. Ionawr 2025 yn 82 mlwydd oed. Gwraig ffyddlon a gofalgar y diweddar Gwyndaf, mam gariadus a chefnogol Gwenno ac Arwyn, mam yng nghyfraith arbennig Alan a Haf a nain Tabi hwyliog a balch o Sara Enlli, Cian Gwyn a Cai Rhun. Hefyd chwaer annwyl a gofalus Gwilym, Elfed, Eifion, Enid a'r diweddar Huw ac Arwel a chyfaill triw ac annwyl i lawer. Bydd colled enfawr ar ei hôl. Yn ôl ei dymuniad, cynhelir gwasanaeth hollol breifat ar yr aelwyd yn Treflys ac yna i ddilyn gwasanaeth cyhoeddus ym Mynwent Macpela Penygroes am 11:30 fore Sadwrn 15. Chwefror. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Tabi tuag at Urdd Gobaith Cymru ac elusennau lleol eraill oedd yn agos at ei chalon. Ymholiadau - Gwilym Jones a'i Fab, Caernarfon 01286 673072
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Tabitha