BuddugHUGHESHUGHES - Dymuna Buddug, David, Jean a Rhian, teulu y diweddar Gwilym Evan Hughes, London House, Clwt-y-Bont, ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth annisgwyl o golli priod, tad a thaid arbennig. Diolchwn i bawb am y rhoddion a dderbyniwyd er cof am Gwilym at Feddygfa Deiniolen a Llanberis. Diolch i'r meddygon a'r nyrsus am eu gofal dwys. Diolch i'r Parchedig Robert Townsend am ei wasanaeth hyfryd a phriodol ac yn olaf diolch arbennig i'r ymgymerwr Dylan Griffith, Tros y Waen, Penisarwaun am ei drefniadau ardderchog a thrylwyr.
Keep me informed of updates