Elizabeth MayGRIFFITHSGRIFFITHS - ELIZABETH MAY (Liz May), . 18fed o Orffennaf 2021. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, o 1 Bron Llan, Penmachno yn 71 mlwydd oed. Cymar ffyddlon y ddiweddar Sean, mam a mam yng nghyfraith annwyl ac ofalus Delyth a Steven, Richard, Bethan a Faissal, nain caredig a hwyliog i Elyas. Chwaer hoffus Gwendoline, Irene, Michael, Lewis ar ddiweddar Eirlys, Ifor Glyn, a Gruffydd Elfed a ffrind i lawer. Angladd dydd Mawrth 27 o Orffennaf 2021. Gwasanaeth yng nghapel Salem, Penmachno am 1.00 o'r gloch ac yna rhoddir i orffwys ym mynwent y Capel. Blodau y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Liz May tuag at Ysgol Gogarth, CPD Machno Unedig a Nyrsys Ardal Llanrwst, drwy law yr ymgymerwyr G Lloyd Jones, Ancaster Square, Llanrwst. Ffôn 01492 640600
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth