BerylGRIFFITHEbrill 8, 2023 Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd ac wedi gofal arbennig yng Nghartref Gofal Yr Wyddfa, Llanberis, gynt o Castell, Pentir yn 93 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Owain (Owie Castell); mam a mam-yng-nghyfraith gariadus Hugh a Sharon, Wyn a Ruth, Alun a Bronwen, Dewi a Lowri; nain arbennig Sioned, Ceri, Iwan, Dylan, Aron, Gethin, Erin, Dwynwen, Manon a Fflur; merch y diweddar Victor ac Ellen Edwards; chwaer-yng-nghyfraith a modryb hoff. Colled drist i'w theulu a'i ffrindiau oll. Angladd ddydd Gwener, Ebrill 21, 2023. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys St. Deiniol, Llanddeiniolen am 11.30 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent yr Eglwys. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof tuag at Dementia Actif Gwynedd. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates