MargaretGEORGEYn dawel dydd Mercher, Ebrill 26ed yn Ysbyty Glangwili, hunodd Margaret, Coedlannau Fawr, Gwyddgrug, Pencader. Priod annwyl Arwyn, mam cariadus Adrian a Siân, mam yng nghyfraith parchus Catrin ac Antony, mamgu dyner Tudur ac Einir. Chwaer ffyddlon y diweddar Ann, David a Richard.Gwasanaeth angladdol preifat ar ddydd Iau 11fed Mai, 2023 yn Eglwys y Santes Fair, Pencader am 1 or gloch, ac i ddilyn i Fynwent Cyhoeddus Pencader. Blodau teulu yn unig ond rhoddion os dymunir tuag at " Juvenile Diabetes Research Foundation" (sieciau yn daladwy i " JDRF " ) trwy law Mr Dorian Harries ar rhan G Harries ai Feibion, Cyfarwyddwyr Angladdau, Maesybwlch, Pencader, Sir Gâr, SA39 9BY. Ffon: 01559 384903 /384386
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Margaret