RhiannonFEARDymuna Davyth ac Olwen ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gwraig a chwaer annwyl. Gwerthfawrogwyd y geiriau caredig a dderbyniwyd trwy lythyrau, cardiau, galwadau ffôn ac ymweliadau, bu hyn oll yn gysur mawr i'r teulu. Diolch yn arbennig i'r Parchedig Nerys Griffiths am ei gwasanaeth teilwng a theimladwy ac i Mr Eifion Harding am gyflwyno y deyrnged gyda chydymdeimlad, hefyd i Mrs Eurwen Darwood am ei gwasanaeth wrth yr organ. Diolchwn yn fawr am y rhoddion hael a dderbyniwyd tuag at y ddwy elusen: Same Qualities Foundation (Cleft Palate Surgery) a'r Batwa Development Foundation. Mawr ddiolch hefyd i Meinir o gwmni Dylan Griffith, Ymgymerwr, Penisarwaen am ei gwasanaeth urddasol, parchus a thrylwyr ac am ei thosturi.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Rhiannon