AnnieEVANSEVANS - ANNIE, . Hydref 17, 2018 ( Nannie Cyttir). Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd Bangor yn 96 mlwydd oed, o Plas Pengwaith, Llanberis, gynt o 26, Bryn Tirion, Penisarwaen. Priod ffyddlon y diweddar Owen Goronwy; mam a mam-yng-nghyfraith annwyl Mair a Mike, Meirion ac Eirlys; nain gariadus Dylan, Alan a Bethan; chwaer hoff Beti a'r diweddar Ben; modryb hoffus a ffrind i lawer. Colled drist i'w theulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ddydd Iau, Hydref 25, 2018 am 12.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion os dymunir yn garedig er cof tuag at Plas Pengwaith a Meddygfa Waunfawr. Ymholiadau pellach i Meinir o Dylan Griffith, Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen. Ffôn 01286 871833.
Keep me informed of updates