John HenryDOBSONDOBSON - JOHN HENRY (Sion) yn 75 mlwydd oed, o 14 Nant Y Felin, Nefyn. Hunodd yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar 23ain o Fehefin 2015. Gwr annwyl i Cheryl, tad caredig i Paul a'i bartner Delyth, a Fflur a'i phartner Dean, taid balch i Alaw a brawd hoff i Stanley, Eric, William, Gwilym a'r diweddar Marion, Elwyn a Sian. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Dewi Sant, Nefyn am 11.30 o'r gloch fore Sadwrn 27ain o Fehefin 2015 ac yna rhoddir i orffwys ym Mynwent Nefyn. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Ward Gogarth, Ysbyty Gwynedd trwy law'r ymgymerwr Ifan Hughes, Ceiri Garage, Llanaelhaearn. Ffon 01758 750238.
Keep me informed of updates