HughDAVIESWedi cystudd hir fe hunodd Hugh, 7a Dan y Dderwen, Rhydargaeau, yn dawel yn Ysbyty Glangwili ar Ddydd Iau, Mehefin 2il, priod cariadus Helen, Tad a Thad yng nghyfraith balch Curon a Georgia ac Alaw a Bryn a Thadcu addfwyn Tal bach, cannwyll ei lygad. Brawd cefnogol i Alun a'r diweddar Neil a ffrind ffyddlon i bawb. Blodau'r teulu yn unig. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Cwmdwyfran, Ddydd Sadwrn Mehefin 18fed am 10 yb ac yna i ddilyn yn Amlosgfa Llanelli am 12 o'r gloch. Dymuniad Hugh fyddai i bawb sydd ynghlwm â chlwb chwaraeon i wisgo tei ei glwb i'r angladd. Rhoddion os dymunir tuag at Uned Gofal Dwys Ysbyty Glangwili trwy law Matthew Jones, Waunygroes, Heol Llysonnen, Caerfyrddin, Ffôn 01267 236787
Keep me informed of updates