DannyDAVIESYn dawel yn ei gartref ddydd Mercher 5ed o Awst 2020 hunodd Danny, Danyffynnon, Pentrecwrt, Llandysul yn 73 mlwydd oed. Priod ffyddlon a chariadus Eiry, brawd annwyl i Hefin, Rosemary a'r diweddar Gwynfor a ffrind i bawb. Angladd hollol breifat ym mynwent Penybont, Llandysul ddydd Sadwrn, 8fed o Awst am 2 o'r gloch. Oherwydd amgylchiadau presennol y coronafeirws cynhelir gwasanaeth coffa i ddilyn. Rhoddion, os dymunir, at Meddygfa Llynyfran a'r Nyrsys Cymunedol drwy law Mr David Lewis, Penrhiw, Llandysul SA44 4RN a Mrs Meryl Evans, Rhoslas, Rhos, Llandysul SA44 5EE. Ymholiadau pellach i Delme James, Trefnwr Angladdau, 01994 484540.
Keep me informed of updates