Gwendoline MaryDAVIESDAVIES - GWENDOLINE MARY, . dan ofal tyner ac yn dawel yng Nghartref Plas y Don, Pwllheli, ar ddydd Mercher 29ain o Ebrill 2020, o fewn pythefnos o'i chanfed penblwydd, gynt o Hiraethog Penygroes. Priod y diweddar Sergeant Howard Ellis a Frank Davies; Mam dyner Arwyn a Sian; Nain gariadus Einir a Darren ac Owain a Delyth; Hen Nain annwyl Lydia, Elsi, Elin a Cian. Angladd cwbl breifat yn Amlosgfa Bae Colwyn. Os dymunir derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Gronfa Cyfeillion Plas y Don trwy law yr ymgymerwyr Henry Jones Cyf, Rhes Capel, Cricieth. (01766) 522854.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Gwendoline