BrynDAVIESYn dawel yng Nghartref Parc-y-Llyn ddydd Mawrth, Rhagfyr 30, 2014, Benjamin Brynmor (Bryn) Davies, Tegfan, Blaenffos (gynt Glannant, Eglwyswrw) yn 93 mlwydd oed. Priod annwyl Nance, brawd tyner y diweddar Don, brawd-yng-nghyfraith hoffus Doreen, Percy a'r diweddar Dai a Ieu. Gwasanaeth cyhoeddus ddydd Sadwrn, Ionawr 3, 2015 yng Nghapel Bethabara am 1.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, ond rhoddion, os dymunir i Ffrindiau Parc-y-Llyn trwy law Miss Lowri Phillips, Trefnyddion Angladdau Colin Phillips a'i Ferched 4 Stryd Morgan, Aberteifi. Ffon. 01239 621192.
Keep me informed of updates