YvonneBOWENWedi brwydr hir a dewr, yn nghwmni ei theulu hunodd Yvonne yn ei chartref Coedmor, Heol y Castell, Pencader ar 8fed o Awst 2022 yn 73 mlwydd oed. Gwraig a ffrind addfwyn Ken, mam cariadus Elaine a Frederick, mam yng nghyfraith barchus Robert a Jolene, mamgu hoffus Chloe, Kieran, Rhiannon, Lauren, Gethyn a Trystan, chwaer annwyl Barbara, Daphne a Fiona, a chwaer yng nghyfraith ffyddlon Ann a Wyn, Janet a Howard, Glyn, a Steve. Gwasanaeth gyhoeddus ar Ddydd Sadwrn Awst 20fed, 2022 yn Nghapel Tabernacl, Pencader am 12:00 or gloch ac i ddilyn i Fynwent Cyhoeddus Pencader. Blodau teulu yn unig, ond rhoddion os dymunir tuag at "Cronfa Nyrsus Y Gumuned Llynyfran", "Carmarthenshire Community Palliative Care" a "Accute Response Team" trwy law Mr Dorian Harries ar rhan G Harries ai Feibion, Cyfarwyddwyr Angladdau, Maesybwlch, Pencader, Sir Gar, SA39 9BY. Ffôn 01559 384903 /384386.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Yvonne