Sarah Elizabeth MairBOWENYn dawel yn ei chartref dydd Sadwrn, Medi 26, 2015, Mair, Bryngifre, Pencader (gynt o Brynawelon, Llanllwnni); gwraig ofalgar y diweddar Tom, mam dyner Meinir a Dai, Geraint a Alwen, Eilir a Caroline a mamgu gariadus Bedwyr, Samuel, Rhys, William a Hannah, a chwaer hoffus Cassie a'r diweddar Oswy. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Tabernacl Pencader, dydd Gwener Hydref 2, 2015 am 1.30 o'r gloch ac i ddilyn i Fynwent Gyhoeddus Pencader. Blodau'r teulu yn unig ond rhoddion os dymunir tuag at Meddygfa Teifi, Llandysul trwy law Mr Gethin Harries, Cyfarwyddwr Angladdau, Maesybwlch, Pencader, SA39 9BY. Ffon. 01559 384386.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Sarah