GwynforWILLIAMS25 Rhagfyr, 2024. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, ac o Melbourne House, Ffordd y Sir, Pen-y-groes (yn enedigol o'r Fali, Môn), yn 85 mlwydd oed. Priod addfwyn y diweddar Sylvia, tad a thad-yng-nghyfraith gofalus Carys a Wil, Kevin a Meleri, ac Aled a Siân a thaid balch Donna, Gareth, Sioned, Ceri, Elan a Lois; hen-daid arbennig i wyth o or-wyrion a wyresau, brawd hoff Menna a'r diweddar Gareth, ac ewythr ffyddlon a chyfaill triw i lawer. Angladd fore Gwener, 17 Ionawr, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Groes, Pen-y-groes am 11.00 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at Glwb Snwcer Y Groeslon. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Gwynfor