NancyPARRY26 Ionawr, 2025. Yn frawychus o sydyn, ac o Fryn Llwyn, Pen-y-groes (gynt o Lanllyfni), yn 88 mlwydd oed.
Priod ffyddlon y diweddar John Parry, a mam arbennig iawn Hywyn, Idwen, Gwynant a'r diweddar Alwena; mam-yng-nghyfraith hoff Sarah, Cleif a Dawn, nain garedig a hwyliog Melanie, Llŷr, Llywela, Helen, Annie, Mali, Cian a Begw, hen-nain falch Jamie, Matthew ac Olivia, chwaer annwyl Elsie, a chyfaill triw i lawer. Bydd yn golled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll.
Angladd brynhawn Gwener, 21 Chwefror, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Groes, Pen-y-groes am hanner dydd, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Nans tuag at elusennau lleol.
Ymholiadau i
Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Nancy